Fe wnaethoch chi chwilio am *

Canlyniadau

THOMAS (TEULU), Wenvoe, Sir Forgannwg.

Yr oedd y teulu hwn, a ddaeth yn flaenllaw yn y 17eg ganrif, yn disgyn o deulu o'r enw Harpway yn Swydd Henffordd. Yn ôl G. T. Clark (Limbus Patrum, 445) priododd JEVAN HARPWAY, neu ap 'Harpway,' Tresiment, Swydd Henffordd, CATHERINE, merch ac aeres Thomas ap Thomas, castell Wenvoe, Sir Forgannwg. Yr oedd eu gor-ŵyr hwy,

EDMUND THOMAS (1633 - 1677)

Aelod seneddol Morgannwg, 1654-6, ac yn ' Nhŷ Arglwyddi ' y Diffynnwr, 1658. Prynodd ef lawer o diroedd yn siroedd Morgannwg a Mynwy. Bu iddo fab o'i ail wraig

EDMUND THOMAS (1674 - 1693)

Bu fu farw'n ddibriod ac o dan oed. Ymddengys mai aeres Wenvoe, maes o law, oedd

ELIZABETH

Merch y William Thomas (bu farw yn Rhydychen, 1636) a briodasai Jane, merch Syr John Stradling, barwnig, castell S. Dunwyd, Sir Forgannwg. Yr oedd yr Elizabeth hon, a gafodd Wenvoe a Rhiwperra, yn weddw Edmund Ludlow, un o'r gŵyr a roes Siarl I i farwolaeth; wedi marw Ludlow daeth yn wraig i JOHN THOMAS, a oedd, efallai, yn gefnder iddi (Clark, op. cit.); ganwyd ef yn 1664; crewyd ef yn farwnig ym mis Rhagfyr 1694, gyda hawl i'w frodyr, EDMUND a William, i'w ddilyn yn y farwnigiaeth. Bu farw ar 17 Ionawr 1704 yn ddiblant.

Syr EDMUND THOMAS (1712 - 1767)

Y 3ydd barwnig. Dilynodd ef yn 1723 ei dad, Edmund Thomas, yr ail farwnig (a brawd Syr John Thomas, y barwnig cyntaf). Priododd y 3ydd barwnig, Mehefin 1740, ag Abigail, merch Syr Thomas Webster, Battle Abbey. Bu'n aelod seneddol dros Chippenham, 1741-55, a thros sir Forgannwg o 1761 hyd ei farwolaeth ar 10 Hydref 1767. Yr oedd Syr Edmund yn gyfeillgar â Frederick, tywysog Cymru, a daliai y swydd o was yr ystafell wely iddo o 1742 hyd y bu'r tywysog farw yn 1751. Dewiswyd ef gan weddw Frederick, ym mis Hydref 1757, yn gyd-drysorydd ei thŷ hi. O 1761 yr oedd yn arglwydd-gomisiynwr y Bwrdd Masnach, eithr rhoddwyd iddo, yn 1763, yn gyfnewid am y swydd hon, swydd archwiliwr cyffredinol y coed a'r fforestydd, a ddaliodd hyd adeg ei farw. Daeth yn lifftenant-cyrnol milisia Morgannwg yn 1764. Gwerthwyd Wenvoe ganddo yn 1765 ac felly torrwyd cyswllt y teulu â Sir Forgannwg; gwerthasid Rhiwperra lawer blwyddyn cyn hynny.

FREDERICK JENNINGS THOMAS (1786 - 1855), is-lyngesydd

Mab iau Syr JOHN THOMAS (1749 - 1828), y 5ed barwnig; ganwyd ef 19 Ebrill 1786. Cychwynnodd ei yrfa yn y llynges ym mis Mawrth 1799 ar y Boston. Yn 1803 yr oedd ar y Prince of Wales, llong-faner Syr Robert Calder, a bu ym mrwydr 22 Gorffennaf 1805. Ar 19 Medi yr un flwyddyn apwyntiwyd ef yn lifftenant-gweithredol ar y Spartiate ac yr oedd ym mrwydr Trafalgar. Cadarnhawyd ei gomisiwn ar 14 Chwefror 1806, ac o hynny hyd 1814 parhaodd yn y Spartiate a llongau eraill yn y Môr Canoldir, gan ddyfod yn y diwedd yn gapten y San Juan, llong-faner yr is-lyngesydd Linzee yn Gibraltar. Dychwelodd adref yn 1814 ond ni bu iddo swydd weithredol wedi hynny. Priododd 7 Awst 1816, Susannah, merch Arthur Atherley; bu iddynt dri mab a merch. Ymddeolodd ar 1 Hydref 1846 gyda'r gradd o is-lyngesydd a bu farw ar 19 Rhagfyr 1855.

CHARLES NASSAU THOMAS

Nai Syr Edmund Thomas. Yr oedd mor gyfeillgar â George, tywysog Cymru (George IV wedi hynny) ag a fuasai Syr Edmund â Frederick, tywysog Cymru. Yr oedd yn gyrnol yn y fyddin, ond nid oes gofnodion am ei yrfa fel milwr. Yn 1795 daeth yn is-siambrlen teulu i'r tywysog; yn 1812, wedi i George ddyfod yn 'Prince Regent,' dewiswyd ef yn was cyntaf yr ystafell wely ac yn feistr y dilladau, swydd a ddaliodd hyd y daeth y tywysog yn frenin yn 1820.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.